O deffro tro fy enaid trist
1a,2,3,4,(5,6,7,8,9,(10)).
O deffro gwel fy enaid trist
1b,2,3,4,5,6.
(Am ddioddefaint Crist - Rhan I)
O deffro, tro, fy enaid trist,
Gwel 'ffernol griw, o ddautu'th Grist,
  Am ladd dy Brynwr pur;
Yn 'mofyn gang, o dystion gau,
I Pilat i'w gondemnio'n glau;
  O f'enaid cofia'i gur.

[O deffro, gwel, fy enaid trist,
 Uffernol lu o ddeutu'th Grist,
   Am ladd dy Brynwr pur;
 Yn 'mofyn torf o dystion gau
 I Pilat i'w gondemnio'n glau:
   O! f'enaid, cofia'i gur.]

Gan bwys y gwaith,
    fe chwysai'r gwaed,
Yn llif di-drai,
    o'i ben i'w draed,
  A hyn dros oriau hir;
Fe yfai'n rhwydd, o'i gariad rhad,
Y cwpan dû o law ei Dad;
  O f'enaid, cofia'i gur.

Y ceidwad cu, ei gondemnio gâ's;
Llofruddion lu a ddaeth i maes
  A geirwon hoelion dur:
O dan y pwys, er maint y poen,
Distewi wnaeth fel addfwyn Oen;
  O f'enaid, cofia'i gur.

Gelynion llym a godai eu llef,
Croeshoeha, O! croeshoelia ef!
  Ni haeddai fyw yn hir:
Yn mhlith y llu, aed âg e'n llyn,
I farw ar Galfaria fryn:
  O f'enaid, cofia'i gur.

Rho'wd mantell goch am dan yr Oen,
Gan ddrain ei ben ddioddefai boen;
  'Nawr wele'r Brenin pur!
Fflangellwyd ef nes oedd yn waed,
A chŵysau du,
    o'i ben i'w draed:
  O f'enaid, cofia'i gur.

Ca'dd gario'r groes
    i ben y bryn,
Nes llethu'n llwyr fy Iesu'n llyn,
  Gan wawdio'm Prynwr pur:
A dweud, Ai dyma Israel Sanct?
Ei waed boed arnom ni a'n plant!
  O f'enaid s cofia'i gur.

Y ddaiar fud, roi ei meirw'n fyw,
A'r creigydd fry a holltai'n friw,
  Wrth edrych ar fath gûr:
Yr haul a 'mguddiai wrth y lo's,
Y lloer a'r sêr ai'n dywyll nôs:
  O f'enaid, cofia'i gur.

Trywanwyd do, fy mhrynwr rhad,
Nes daeth o'i galon ddŵr a gwa'd,
  Yn ffrwd fel afon bur:
Oedd ar y llawr i'w wel'd yn llyn,
Yn frwd, ar ben Calfaria fryn;
  O f'enaid, cofia'i gur.

Mi glywa ei lef,
    pan chwerwa'r loes,
A'i eirad gri ef ar y groes,
  Am faddeu i mi'n wir;
Ei weddi troswyf, ai uwch nen,
A mi'n ei hoelio ar y pren;
  O f'enaid, cofia'i gur.

Dros f'enaid bu'r addfwyn Oen,
Fel hyn, yn diodde' dirfawr boen:
  I'm gwneyd yn rhydd yn wir:
'Roedd yn ei fryd, orphenu'r gwaith
O eithaf trag'wyddoldeb maith;
  O f'enaid, cofia'i gur.
Rho'wd mantell goch am dan :: Rhoi mantell goch wnaed am

William Williams 1717-91

Tonau [886D]:
Chatham (<1811)
Croeshoeliad (alaw Gymreig)
Hinton (<1811)
S(e)ion (Jakob Hintze 1622-1702)

gwelir:
  Rhan II - Rhow'd mantell goch am dan yr Oen
  Rhan II - Ca'dd gario'r groes i ben y bryn
  Rhan II - Y ddaear fud ro'i meirw'n fyw
  Fy enaid nac an(n)ghofia groes
  O boed fy nghalon oll ar dân
  Trywanwyd do fy Mhrynwr rhad
  Yn Eden cofiaf hynny byth

(About the suffering of Christ - Part 1)
O awake, turn, my sad soul,
See a hellish crew, around thy Christ,
  Wanting to kill thy pure Redeemer;
A gang of false witnesses asking
Pilate to condemn him quickly;
  O my soul, remember his pain.

[O awake, see, my sad soul,
 A hellish host around thy Christ,
   Wanting to kill thy pure Redeemer;
 A throng of false witnesses asking
 Pilate to condemn him quickly:
   O my soul, remember his pain!]

Under the weight of the work,
    he was sweating the blood,
As an unebbing flood,
    from his head to his feet,
  And this for long hours;
He would drink freely, of his free love,
The black cup from his Father's hand;
  O my soul, remember his pain.

The dear saviour, he was condemned;
A host of murderers brought out
  Rough steel nails:
Under the weight, despite the pain,
He was silent like a gentle Lamb;
  O my soul, remember his pain.

Keen enemies raised their cry,
Crucify, O crucify him!
  He did not deserve to live long:
Amongst the throng, they took him thus,
To die on Calvary hill:
  O my soul, remember his pain.

A red cloak was put around the Lamb,
From thorns his head suffered pain;
  Now see the pure King!
He was scourged until there was blood,
A black drops of sweat,
    from his head to his feet:
  O my soul, remember his pain.

He got to carry the cross
    to the summit of the hill,
Until my Jesus was totally overcome thus,
  While scorning my pure Redeemer:
And saying, "Is this Israel's Holy One?
His blood be upon us and our children!"
  O my soul, remember his pain.

The earth mute, gave up its dead alive,
And the rock above was splitting apart,
  On seeing such pain:
The sun hid itself from the anguish,
The moon and the stars became dark night:
  O my soul, remember his pain.

He was pierced, yes, my gracious Redeemer,
Until water and blood came from his heart,
  As a stream like a pure river:
It was on the ground to be seen thus,
Ardently, on the summit of Calvary hill;
  O my soul, remember his pain.

I hear his wail,
    when the anguish gets bitter,
And his woeful cry on the cross,
  For forgiveness for me truly;
His prayer for me, went above the sky,
And I nailing him onto the tree;
  O my soul, remember his pain.

For my soul did the gentle Lamb,
Thus, suffer enormous pain:
  For me to be made truly free:
It was in his mind, to finish the work
From the extremity of a vast eternity;
  O my soul, remember his pain.
::

tr. 2019 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~